Caiff Prifysgol Morgannwg ei chydnabod yn brifysgol ryngwladol sydd ag ymagwedd nodedig tuag at ymchwil, arloesedd a phrofiad myfyrwyr.
• Ragoriaeth dysgu, addysgu ac ymchwil fydd wedi ei chydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
• Boblogaeth gytbwys o fyfyrwyr gyda chynnydd yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig
• Well cyfraddau dilyniant a chwblhau
• Staff academaidd sy’n addysgu yn flaenllaw yn eu disgyblaethau ysgolheigaidd
• Staff cynorthwyol a gweinyddol proffesiynol
• Ragoriaeth gydnabyddedig fel darparwr datblygiad sgiliau, menter, arloesedd a gwybodaeth ar gyfer sefydliadau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol
• Bortffolio nodedig o raglenni addysgol rhagorol a pherthnasol wedi’u hategu gan ysgolheictod ac arfer o’r radd flaenaf gan ddarparu ffyrdd proffesiynol, effeithiol o ddatblygu sgiliau.
• Gyfraddau uchel o ddilyniant i gyflogaeth bwrpasol neu astudiaeth bellach
• Gyfraddau uchel o foddhad ym mhob agwedd ar brofiad myfyrwyr
• Gyfleusterau atyniadol, modern a bywiog ym mhob campws
• Systemau technoleg o’r radd flaenaf
• Ganolfannau ymchwil o safon ryngwladol mewn nifer o feysydd â ffocws strategol
• Gydnabyddiaeth fel partner hygyrch, hyblyg, ymatebol a gwerthfawr ar gyfer ymchwil a datblygu amlddisgyblaethol a chydweithredol
• Bartneriaethau strategol gydag amrywiaeth o sefydliadau’r sector preifat a’r sector cyhoeddus sy’n ychwanegu gwerth i’n henw da, sy’n diwallu anghenion ein myfyrwyr a’n staff ac sy’n rhoi budd i’r gymuned ehangach
• Bartneriaethau rhyngwladol effeithiol, yn enwedig yn Tsieina, India ac Affrica Is-Sahara
• Gyfraniad allweddol i godi safonau cyrhaeddiad addysgol ôl-16 ac uwch yn sylweddol yn rhanbarth Blaenau’r Cymoedd.
Er mwyn cyflawni’r weledigaeth, byddwn yn mabwysiadu pum blaenoriaeth strategol yn ystod y cyfnod rhwng 2009-2014:
1. Bod yn Brifysgol yn ddewis cyntaf; i fyfyrwyr, staff, busnesau a’r gymuned
2. Darparu cyfleoedd sy’n canolbwyntio ar ddysgu a chyflogaeth nodedig a pherthnasol sy’n ysbrydoli rhagoriaeth academaidd
3. Darparu profiad o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion uchelgeisiol, cymdeithasol a thechnolegol ein myfyrwyr
4. Cael ein hadnabod gan bob rhanddeiliad allweddol fel prifysgol sylweddol sy’n weithredol ym myd ymchwil, sy’n ymgymryd ag ymchwil sydd o werth i ddefnyddwyr ac sydd yn benodol berthnasol i’r prif heriau sy’n wynebu cymdeithas
5. Sefydlu partneriaethau strategol a chyfleoedd i ymgysylltu’n allanol yn y Deyrnas Unedig a thramor sy’n rhoi enw da a budd ychwanegol i’r Brifysgol.
Datganiad Gwerthoedd
I danseilio’i gweledigaeth a’i blaenoriaethau strategol allweddol, bydd y Brifysgol yn ceisio dilyn yr egwyddorion a’r athroniaeth ganlynol yn ei gweithgareddau i gyd:
• Byddwn yn annog ac yn datblygu galluoedd dychmygus, creadigol ac arloesol y staff a’r myfyrwyr i gyd
• Byddwn yn hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol ac yn cynyddu cyfranogiad mewn Addysg Uwch
• Byddwn yn sicrhau bod adnoddau priodol ar gael i gefnogi’n gweithgareddau a safle ariannol cryf i’w cynnal
• Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd fel un tîm, gan ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth ac ymrwymiad brwd y staff i gyd
• Byddwn yn cael ein hadnabod fel sefydliad moesol, sy’n ymwybodol o’r amgylchedd ac yn gynaliadwy