Deg milltir sydd rhwng Caerdydd a Phontypridd. Os byddai’n well gennyt fod mewn lle ychydig tawelach ar gyfer dy astudiaethau, mae’r man hwn yn ddelfrydol. Ymhell o sŵn y ddinas, fe gei di gampws cyfeillgar wedi’i amgylchynu ag ardaloedd agored gwyrdd a digonedd o awyr iach. Dywed ein myfyrwyr eu bod wrth eu bodd gyda’r ymdeimlad o gymuned, yn ogystal â chyfleustra byw ac astudio yn yr un lle.
Mae’n lle croesawgar a byddi’n teimlo’n gartrefol yn fuan iawn. Mae enw da cynyddol y Brifysgol a’r boblogaeth o fyfyrwyr yn golygu mai ardal i fyfyrwyr yw’r dref yn bennaf bellach, gyda llu o siopau, tafarnau a bwytai sy’n gynnes iawn eu croeso i fyfyrwyr.
Nid yw Pontypridd yn bell o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, lle cynigir ystod eang o weithgareddau sy’n cynnwys teithiau cerdded, canŵio, ogofa, seiclo a geocaching. Os hoffet ti gael noson tawel allan, gelli di ymweld â’r cyfadeilad hamdden cyfagos, Parc Nantgarw, sydd â sinema fawr, bowlio deg ac amrywiaeth o fwytai ar gael (gyda llawer ohonynt yn cynnig disgownt i fyfyrwyr).
Mae Pontypridd yn falch o’i chanolfan gelfyddydau leol, The Muni, a leolir mewn eglwys wedi’i haddasu. Cynhelir nosweithiau cerddoriaeth fyw, comedi, cynyrchiadau theatr ac yn lle gwych i wylio bandiau newydd lleol. Gelli di hefyd ddysgu am hanes mwyngloddio’n yr ardal leol trwy ymweld â Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.
Fe ddoi di o hyd i ystod o lefydd bwyta gwych ym Mhontypridd. Ar gyfer pryd o fwyd arbennig, beth am The Bunch of Grapes neu Alfred’s Bar and Grill? Yn agosach i’r campws, mae’r Otley Arms gydag enw da fel bragwr cwrwau o ansawdd da. Mae pris y bwyd hefyd yn rhesymol ac mae’r awyrgylch bob tro’n groesawgar.
Mae Clwb Rygbi Pontypridd enwog yn lle gwych i ehangu dy wybodaeth am hanes rygbi Cymru ac i fwynhau gemau rygbi bywiog. Mae cae criced ym Mharc Ynysangharad, sydd hefyd yn gartref i Pontypridd Town AFC.
Ceir marchnad Fictoraidd dan do yng nghanol Pontypridd, lle gelli di brynu unrhywbeth o gomics i beiriannau golchi dillad! Mae’n llawn stondinau bach amrywiol a gelli di brynu cynnyrch lleol ffres o safon uchel.