Ein lleoliad
Ble mae Prifysgol Morgannwg?
Y mae Prifysgol Morgannwg yn ne Cymru ac mae ganddi gampws yng Nghaerdydd, prif ddinas Cymru ac ym Mhontypridd, tref 8 milltir i’r gogledd o Gaerdydd.
Dolenni Cysylltiol
- Caerdydd/lleoliad/Caerdydd
- Pontypridd /lleoliad/Pontypridd/
- Cyfarwyddiadau Teithio
- Ein Buddsoddiannau a Datblygiadau
- Teithio
- Adnoddau/lleoliad/Adnoddau
Os ydych chi’n cael problem gweld y fideo yna fe allwch chi lawr lwytho copi
Ein Campysau
Y mae gan y Brifysgol dri champws. Y mae campws Trefforest a Glyn-taf wedi’u lleoli yn agos i Bontypridd a gellir cerdded o un campws i’r llall mewn llai na deng munud. Y mae campws ATRiuM wedi’i leoli yng nghalon dinas fywiog a chyffrous Caerdydd ac yn daith o 20 munud o’r prif gampws yn Nhrefforest.
Bydd y cwrs y byddwch chi’n ei astudio yn effeithio ar ble y byddwch chi’n astudio.. Yn wahanol i brifysgolion eraill nid ydym ni’n disgwyl i chi deithio o un campws i’r llall, ac felly, bydd eich darlithoedd a tiwtora yn digwydd yn yr un lle.
Beth fyddai i’n ei astudio?
Trefforest
Campws Trefforest yw cartref Ysgol Fusnes Morgannwg, Y Gyfadran Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol a’r Gyfadran Uwch-Dechnoleg.
Dyma’r campws mwyaf o’r tri sydd wedi’i leoli yng nghymoedd prydferth de Cymru.. Y mae’n gampws modern sydd yn adlewyrchu cyfoeth hanesyddol yr ardal arbennig yma. Gydag awyrgylch gyfeillgar a hamddenol dyma’r lle perffaith i astudio a chymdeithasu. Y mae’r Undeb Myfyrwyr eiconig newydd yn ychwanegu cyfleoedd gwefreiddiol newydd i’n myfyrwyr ac y mae popeth ar stepen eich drws o fewn ac o amgylch y campws, gan gynnwys y neuaddau preswyl a’r barau a’r siopau lleol ym Mhontypridd. Os ydych chi’n berson sy’n hoff o fentro i’r awyr iach yna gellir dianc i’r parciau, mynyddoedd a’r môr sydd nepell o’r brifysgol.
Glyn-taf
Os byddwch chi’n dymuno astudio yn y Gyfadran Iechyd, Chwaraeon a Gwyddoniaeth yna mi fyddwch chi’n astudio ar gampws Glyn-taf.
Ar y campws hwn allwch chi ymweld â siop undeb y myfyrwyr a’r llefydd bwyta yno. Y mae’r gwasanaethau yn cynnwys tŷ trosedd, labordai modern ac Ystafell Ymarfer Glinigol arbenigol i fyfyrwyr iechyd a gwyddoniaeth.
ATRiuM
Y mae Ysgol y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd wedi’i lleoli yng nghanol dinas Caerdydd yn ATRiuM. Dyma adeilad gwerth miliynau o bunnoedd ac sydd yn cynnwys adnoddau modern ar gyfer y diwydiannau dan sylw, gan gynnwys stiwdios, ystafelloedd tywyll ac ystafelloedd ymarfer. Gall myfyrwyr y campws ymlacio a mwynhau yng nghaffi’r ATRiuM ac y mae’n le gwych i gael rhywbeth i’w fwyta rhwng sesiynau ymarfer a pherfformio.
“Caerdydd”: dyma brif ddinas Cymru ac yno fe ddewch chi o hyd i arlwy eang o fariau, siopau, bwytai a mannau sy’n cynnig profiadau diwylliannol gwych. Prif ganolbwynt y ddinas yw Castell Caerdydd, adeilad nodedig sydd wedi’i amgylchynu gan barciau gwyrdd hyfryd, stadiwm y mileniwm, amgueddfa Caerdydd a theatrau a mannau adnabyddus ac ysbrydoledig eraill.
Buddsoddiannau a Datblygiadau
Y mae’r Brifysgol yn buddsoddi dros £130miliwn yn ei adnoddau ym mhob un o’r campysau er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r adnoddau a’r cyfleoedd gorau i’n myfyrwyr. Y mae’r rhaglen gyffrous ac arloesol yma yn adlewyrchu ymrwymiad y brifysgol i ddatblygu’n gyson a gweld newid nodweddiadol i’w champysau.