Manteisiwch ar y cyfle i astudio modiwl cyfrwng Cymraeg wrth astudio’ch gradd yn Y Gyfraith drwy gyfrwng y Saesneg yma.
Darperir y modiwl hwn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r modiwl ar gael fel modiwl opsiynnol i fyfyrwyr ail flwyddyn sydd yn astudio’r Gyfraith.
Addysgir y modiwl ar ffurf dysgu o bell gan Brifysgol Bangor ond darperir cefnogaeth tiwtora cyfrwng Cymraeg o fewn Prifysgol Morgannwg ar ben hyn.
Nod y modiwl yw datblygu sgiliau cyfreithiol tra’n gwella sgiliau iaith.
Rhoddir pwyslais ar gywirdeb a pherthnasedd yr iaith a ddefnyddir wrth gwblhau tasgau cyfreithiol boed yn ysgrifenedig neu ar lafar.
I wybod mwy am y modiwl hwn, e-bostiwch ni yma
Gellir astudio Y Gyfraith gydag Astudiaethau Cymraeg Proffesiynol ym Morgannwg hefyd. I wybod mwy, ewch i’r dudalen hon