Y Gymraeg ym Morgannwg


Technoleg Sain - llwybr dwyieithog

Wrth wylio’r teledu, mynychu’r sinema, gwrando ar y radio a mwynhau gig mae’n hawdd anghofio rol y technegwyr sain yn sicrhau safon y cynhyrchiad.

Nid ar hap a damwain y mae’r sain ar gynnyrch cyfryngol neu mewn digwyddiadau byw yn cyfoethogi’r profiad i’r gynulleidfa a’r gwrandawr. Tu ól i’r llen y mae’r technegwyr yn gweithio yn ddiwyd yn paratoi, ymarfer a rheoli popeth yn gelfydd a phroffesiynol.

Bydd astudio’r cwrs Technoleg Sain yn ein campws yr ATRiuM yng Nghaerdydd yn eich paratoi i fynd ymlaen i weithio mewn sefyllfaoedd o’r fath yn y dyfodol.

Byddwch yn cael y cyfle i fireinio’ch sgiliau ar sawl lefel, drwy arbrofi, golygu, gynllunio a rheoli prosiectau. Ac, oherwydd natur rhyngddysgybliaethol yr ATRiuM cewch gyfleoedd hefyd i gyd-weithio â phobl o sawl maes – cerddorion ac actorion i sicrhau eich bod yn deall eu maes nhw gymaint ag sy’n bosib hefyd.

Darperir gwybodaeth bellach am y cwrs, yma

Cysylltwch â ni drwy e-bostio nawr