University of Glamorgan

Y Gymraeg ym Morgannwg

Pam astudio yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog?

I rai myfyrwyr mae dewis mynd ymlaen i astudio cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu sy’n cynnig cyfleoedd Cymraeg yn ddewis naturiol. Yn wir, wedi mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg ers sawl blwyddyn, y cam nesaf amlwg yw parhau i astudio yn y Gymraeg ar lefel Addysg Uwch.
Ond, oherwydd yr holl opsiynau sydd ar gael drwy UCAS, mae rhai yn anghofio am gyfrwng iaith yr addysg y byddan nhw’n ei derbyn ar lefel prifysgol.

Efallai hefyd nad Cymraeg yw eich iaith gyntaf ac felly does dim hyder gyda chi i ddewis cwrs llawn cyfrwng Cymraeg.

Ym Morgannwg darperir cefnogaeth i fyfyrwyr o bob cefndir ieithyddol a lefel gramadegol.

Beth bynnag eich dyheadau a’ch disgwyliadau, fel myfyriwr iaith gyntaf neu ail iaith fe ddylech chi ystyried iaith eich addysg fel rhan o’ch gwaith ymchwil.

Dyma rai o’r prif resymau dros ystyried a dewis astudio rhan o’ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg:

  • Wrth ddewis gwneud rhai modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg bydd modd i chi gymryd rhan mewn darlithoedd a gwaith ymarferol gyda grwpiau mawr a bach. Cewch gyfle i gymdeithasu a gweithio gyda myfyrwyr sy’n dod o bob rhan o’r byd fel rhan o’r prif ddarlithoedd cyfrwng Saesneg ac yna gweithio’n agos gyda chriw llai wrth wneud pethau penodol yn y Gymraeg.

“Yn ystod fy nghwrs gradd yn y maes Drama ges i’r cyfle i wneud prosiectau a rhannu syniadau gyda llwyth o’r myfyrwyr Saesneg tra ar yr un pryd gweithio ar berfformiadau arbennig ac unigryw yn y Gymraeg. Roedd y balans yn wych; cael teimlo’n rhan o’r adran gyfan ond cael grŵp o ffrindiau agos iawn hefyd ar yr ochr Gymraeg.”
Gary Ellis, BA (Anrh) Drama (Theatr a’r Cyfryngau)

  • Wrth astudio gradd drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ry’ch chi’n cael eich addysgu gan arbenigwyr eich maes. Yn wir, ar yr ochr Gymraeg, weithiau, mi fyddwch chi’n elwa hyd yn oed yn fwy, gan mai nhw yw prif academyddion ac arbenigwr y pwnc y byddwch chi’n ei astudio.
    Ar ben hyn mae nifer fawr o’r staff ym Morgannwg yn dal i weithio o fewn eu meysydd rhwng darlithio, ac, o ganlyniad, maent yn deall y sector, yn ymwybodol o’r newidiadau a’r datblygiadau o fewn y maes ac yn medru rhannu eu gwybodaeth â’u myfyrwyr.

“Mae fy narlithwyr yn gerddorion ac yn byw a bod cerddoriaeth tu fas i’r ystafell ddarlithio, sydd, yn golygu ein bod ni’n dysgu mwy. Maen nhw’n aml yn són am eu profiadau ac yn neud yn siwr ein bod ni’n deall y diwydiant gymaint ag sy’n bosib.”
Tom Hamer, BA (Anrh) Cerddoriaeth Boblogaidd

  • Yn amlwg ry’ch chi’n mynd i’r brifysgol er mwyn cael datblygu eich sgiliau gymaint ag sy’n bosib a chael llwyth o brofiadau i roi ar eich CV. O ganlyniad felly, bydd meistroli eich sgiliau mewn dwy iaith yn rhoi’r cyfle i chi gynnig mwy i’r gweithleoedd yn y dyfodol.

Y mae’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ar rai o’n cyrsiau wedi’u hanelu i roi’r cyfle i chi ddatblygu’n arbenigwyr dwyieithog o fewn y meysydd dan sylw.

“Dwi’n meddwl bod dilyn llwybr dwyieithog yn rhoi’r cyfle i mi gynnig mwy i’r byd gwaith wedi i mi raddio. Dwi wedi cael profiadau amrywiol wrth wneud rhai elfennau yn y Gymraeg a rhai yn y Saesneg a wedi datblygu’n hyder i ddelio â sefyllfaoedd ar lefel broffesiynol yn y ddwy iaith”
Lowri Lewis, BA (Anrh) Drama (Theatr a’r Cyfryngau)

  • Oherwydd datblygiadau cenedlaethol yn y nifer o gyfleoedd sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg y mae’r adnoddau cyfrwng Cymraeg wedi ehangu hefyd. Yn wir, erbyn hyn, darperir adnoddau ar bapur ac ar-lein ac sy’n rhoi cymorth addysgol i chi y tu hwnt i’r dosbarth.
    Yn wir, ar y Porth, (sef gwefan sy’n cynnwys adnoddau ar gyfer nifer helaeth o gyrsiau a addysgir yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg) bydd modd i chi lawrlwytho deunydd addysgu, sgwrsio gyda myfyrwyr eraill am eich gwaith a rhannu gwybodaeth a chyngor.

“Y mae’r Porth wedi bod o fudd mawr i mi wrth i mi astudio’r modiwl ‘Y Gymraeg yn y Gyfraith’. Y mae wedi rhoi’r cymorth pellach i mi wrth i mi wneud fy ngwaith rhwng fy sesiynnau gyda fy nhiwtor”
Monique Baker, LLB Y Gyfraith

+ Feedback