Y mae’r boblogaeth yn cynyddu ac mae’r twf hyn yn arwain at fwy o alw ar ein sector gofal yng Nghymru. Law yn llaw â hyn mae angen gofal benodol, bersonol a pherthnasol ar bobl o bob oed dan bob math o amgylchiadau gwahanol. Yn sgil hyn, un o’r gwasanaethau y mae galw ar ei ddatblygu a’i ddarparu yw gofal a gwasanaeth yn newis iaith naturiol y claf.
O ganlyniad felly, penderfynodd Prifysgol Morgannwg i gefnogi’r addysg a ddarperir ar y cwrs Nyrsio cyfrwng Saesneg gyda rhai cyfleoedd pellach i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i wella eu Cymraeg (fel iaith gyntaf neu ail iaith).
Yn ystod y blynyddoedd o astudio’r cwrs Nyrsio cynigir cwrs cymraeg arbennig sydd â’r nod i’ch helpu chi i wella eich sgiliau a caniatau i chi fagu mwy o hyder i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chleifion, y cyhoedd ac ar lefel broffesiynol yn y dyfodol.
O fewn y modiwl cewch gyfle i….
O fewn y cwrs Nyrsio yn ogystal, cynigir cyfleoedd i ddefnyddio adnoddau addysgol cyfrwng Cymraeg. Darperir y rhain fel adnoddau ychwanegol a fydd yn ehangu eich geirfa, codi eich ymwybyddiaeth ac yn eich cynorthwyo i glywed a gwella eich Cymraeg wrth astudio’r prif gwrs drwy gyfrwng y Saesneg.
Oherwydd system tiwtora personol y Gyfadran fe bennir tiwtor personol i chi ar ddechrau eich cyfnod astudio. Lle bo’n bosib, gellir gwneud cais i gael tiwtor personol cyfrwng Cymraeg fel eich prif diwtor personol neu fel tiwtor pellach i’ch cefnogi drwy gyfrwng y Gymraeg. Os na fydd hi’n bosib darparu tiwtor personol penodol sy’n siarad Cymraeg yna bydd modd i fyfyrwyr gael cymorth bugeiliol cyffredinol drwy gyfrwng y Gymraeg gan Owena Simpson a Gareth Powell o fewn y Gyfadran. Gellir cysylltu â nhw, drwy e-bostio Owena neu Gareth
Darperir yr holl ddeunyddiau a’r cyfleoedd cyfrwng Cymraeg gan yr Adran er lles ein myfyrwyr, i’ch caniatau i barhau gyda’ch Cymraeg ac yn fwy na dim i roi sglein ar eich CV.