Y mae mwy a mwy o bobl yn siarad Cymraeg yng Nghymru erbyn hyn a mwy a mwy o alw ar wasanaethau cyhoeddus i ddarparu gwasanaeth i bobl Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad i hyn ac oherwydd natur y cwrs y mae Morgannwg yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr yn y maes Heddlu i gryfhau eu sgiliau yn y Gymraeg a’r Saesneg wrth astudio yma.
Achubwch ar y cyfle i fynychu 1 sesiwn diwtora cyfrwng Cymraeg bob wythnos gyda thiwtor cyfrwng Cymraeg o fewn y maes yn ystod eich blwyddyn gyntaf.
Yn ogystal â hyn bydd modd i chi gyflwyno rhai o’ch traethodau (yn ddibynnol ar drafodaeth gyda’r tiwtor) drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gall myfyrwyr benderfynu i fynychu’r tiwtora yma yn ychwanegol i’r tiwtora cyfrwng Saesneg.
Y mae’r ddarpariaeth yma wedi’i deilwra yn arbennig i’ch helpu chi i roi sglein i’ch CV. Y nod yw sicrhau felly eich bod yn gymwys ac wedi eich hyfforddi yn briodol yn y Saesneg ond yn ogystal â hyn yn medru cynnig yr elfen ychwanegol i fedru gweithio o fewn y maes yn broffesiynol yn y Gymraeg yn y dyfodol.
I wybod mwy am y cyfleoedd hyn, e-bostiwch ni nawr neu ffoniwch 01443 654299