Cyfleoedd Cymraeg o fewn Dylunio a Chyfathrebu
Bydd Adran Dylunio a Chyfathrebu Prifysgol Morgannwg yn yr Atrium yn cynnig cyfleoedd i astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg o fis Medi 2011 ymlaen.
Darperir cyfleoedd newydd i fyfyrwyr y flwyddyn 1af, 2il a’r 3edd.
Ceri Angel, darlithydd yn yr adran, fydd yn gyfrifol am ddatblygu’r ddarpariaeth, a bydd hi’n gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer y myfyrwyr priodol.
I wybod mwy am y modiwlau, neu i gysylltu â Ceri, e-bostiwch Ceri yma