Y mae cwrs BA (Anrh) Drama (Theatr a’r Cyfryngau) Prifysgol Morgannwg, sydd ar gael yn yr ATRiuM, Caerdydd, yn gwrs sy’n esblygu a datblygu yn unol â gofynion y byd ehangach. Ein nod yw cynnig cyfleoedd unigryw a chwbl berthasol i chi a fydd yn eich paratoi â’r sgiliau anghenrheidiol a’r wybodaeth gyfoes ar gyfer y gyrfaoedd sy’n dilyn. Bydd astudio Drama yn yr ATRiuM yn eich rhoi ar y blaen wrth chwilio am swydd o fewn y maes yn y dyfodol.
Darperir llwybr dwyieithog o’r cwrs hwn a gellir astudio cyfran helaeth o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae’r cwrs yn un hyblyg iawn a gellir dewis a dethol o fewn rhaglen ddwyieithog yn dibynnu ar y trywydd arbenigol yr hoffech ei ddilyn. Dyma apêl y cwrs – yr hyblygrwydd i ddewis eich llwybr eich hun.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen hon
neu e-bostiwch ni nawr