Bydd dilyn modiwlau Astudiaethau Cymraeg Proffesiynol yn eich rhoi ar ben ffordd ar gyfer dyfodol disglair mewn sawl maes yng Nghymru wedi i chi raddio.
Dyma fodiwlau sy’n unigryw ac sy’n cynnig cyfleoedd cyffrous a ffres o ran astudio’r Gymraeg ar lefel Addysg Uwch.
Wrth astudio modiwlau Astudiaethau Cymraeg Proffesiynol ar y cyd gyda chwrs arall (lle bo’n bosib) byddwch yn cael y cyfle i wella eich sgiliau iaith presennol – boed fel iaith gyntaf neu ail iaith, ehangu eich geirfa, gwella eich gramadeg a chael profiadau arbennig yn defnyddio’r Gymraeg mewn awyrgylch proffesiynol.
Cynlluniwyd y modiwlau hyn er mwyn cefnogi myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith ac y mae’r ystod eang o fodiwlau wedi’u dylunio i fod yn ddiddorol, yn gyfoes ac yn berthnasol.
Gellir astudio Cymraeg Proffesiynol fel Prif Bwnc gyda Saesneg. Hanes, Blynyddoedd Cynnar a TESOL.
Fel dewis Is Bwnc gellir ei astudio gydag Addysg (Addysg yn Prif Bwnc).
I wybod mwy ewch i’r tualennau isod: