Heb os y mae’r Cyfryngau sydd o’n hamgylch ar ffurf teledu, radio, ffonau symudol. y we, papurau newydd, cylchgronnau, ffilm a mwy yn rhan o’n bywydau. Y mae’r cyfryngau yn esblygu ac yn newid bob munud, a’u pwer, dylanwad a’u heffaith yn cael argraff ar sut y byddwn yn byw meddwl ac ymateb i bethau bob dydd.
Wrth astudio’r cwrs Cynhyrchu’r Cyfryngau byddwch yn dysgu am sut y mae creu cynnyrch ar gyfer y gwahanol gyfryngau yma, dysgu am hanes y sector ond edrych ymlaen ar ddatblygiadau o fewn y sector.
Dysgwch gan arbenigwyr sydd yn ymwybodol o’r holl newidiadau o fewn y maes ac a fydd yn barod i rhannu eu profiadau a’u gwybodaeth gyda chi. Ynghyd â hyn, byddwch hefyd yn elwa o’r cyfle i ddefnyddio’r adnoddau gorau ar gyfer y diwydiannau dan sylw a sicrhau eich bod wedi meithrin y sgiliau addas ar gyfer mynd ymlaen i gynnig y sgiliau gorau i’r gweithle yn y dyfodol.
Cofiwch hefyd ein bod yn darparu llwybr dwyieithog o’r cwrs hwn, a fydd felly yn eich caniatau i astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar y cwrs. Bydd hyn hefyd yn rhoi hwb pellach i’ch gyrfa ac yn rhoi mwy o gyfleoedd gwaith i chi yn y pen draw.
I wybod mwy, ewch i’r dudalen hon
neu e-bostwich ni yma