University of Glamorgan

Y Gymraeg ym Morgannwg

Cyfleoedd Cymraeg Morgannwg

Os na fyddwch chi’n astudio’ch cwrs cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg, yn dilyn llwybr astudio dwyieithog neu’n gwneud elfen o’ch gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg yna darperir cyfleoedd eraill i chi er mwyn rhoi’r cyfle i chi wella a pharhau i ddefnyddio’ch Cymraeg yma.

Cyflwyno’ch gwaith yn y Gymraeg

Anogir myfyrwyr sydd â diddordeb i gyflwyno eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg i siarad â’u tiwtor personol neu’r darlithydd i drafod yr opsiynau.
Yn sgil y drafodaeth hon bydd y Brifysgol yn chwilio am ddarlithydd perthnasol a fydd yn medru marcio ac asesu eich gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n trefnu cyfieithu’ch gwaith i’r Saesneg.
Ein nod yw rhoi’r cyfle i chi i fanteisio ar y cyfle i gyflwyno rhai prosiectau neu draethodau yn y Gymraeg lle bo hyn yn bosib.

I gael cyngor pellach cysylltwch â ni ar e-bost yma neu i weld pwy yw eich pwynt cyswllt cyfrwng Cymraeg o fewn eich Cyfadran ewch i’r dudalen hon

Tiwtor Personol sy’n medru’r Gymraeg

Bydd eich Cyfadran yn apwyntio Tiwtor Personol i chi ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. O ganlyniad, lle bo’n bosib gellir gwneud cais i gael tiwtor personol sy’n medru’r Gymraeg.

Os na fydd gennych diwtor personol sy’n medru’r Gymraeg yna y mae modd i chi gysylltu â Gareth Powell, tiwtor sydd ar gael i ddarparu cymorth a chyngor bugeiliol i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn ól y galw. Gellir cysylltu â Gareth drwy e-bostio, Gareth yma

+ Feedback