Mae Cerddoriaeth yn gyfrwng grymus. Gall darn o gerddoriaeth reoli ein hagweddau, greu naws arbennig ac ein ysbrydoli.
Mae Cerddoriaeth yn rhan o hunaniaeth cenedl ac wedi dylanwadu ar hanes, crefyddau a diwylliannau gwledydd ar draws y byd.
Mae Cerddoriaeth yn rhan annatod o fywyd ac yn gyfrwng a fydd yn esblygu a datblygu o ddydd i ddydd, o oes i oes.
Ym Mhrifysgol Morgannwg darperir cyfle i chi ehangu eich dealltwriaeth o’r maes wrth i chi astudio’r cwrs Cerddoriaeth Boblogaidd. Yn wir, fe gewch chi gyfle i ehangu’ch ymwybyddiaeth o ról cerddoriaeth yn ein byd a sut y mae’r sector yn newid i ymateb i’r newidiadau cyffrous o fewn diwydiant.
Dyma gwrs sy’n rhoi’r cyfle i chi edrych yn ól ac edrych ymlaen, i weithio ar y sgiliau sydd gyda chi ond i hogi rhai newydd ac i weithio gydag arbenigwyr i sicrhau y bydd yr hyn yr ydych chi’n ei ddysgu yn berthnasol i’r byd go iawn, ac i fwynhau pob elfen o gerddoriaeth.
Dysgwch fwy am y cwrs unigryw yma
Cysylltwch â ni drwy e-bostio nawr