Y Gymraeg ym Morgannwg


Cyrsiau Busnes - llwybrau dwyieithog

Mae cyrsiau Busnes Prifysgol Morgannwg wedi ei gynllunio er mwyn darparu sgiliau addas a throsglwyddadwy i fyfyrwyr ar gyfer y cyd-destun busnes ehangach. Mae’r cyrsiau’n berffaith ar gyfer y rheiny sy’n edrych i ddatblygu eu gwybodaeth busnes tra’n cadw’r opsiwn yn agored i arbenigo mewn maes busnes penodol.

Yn ystod y cwrs gradd, byddwch yn astudio modiwau craidd, ac yn dewis o ystod o fodiwlau arbenigol. Mae modiwlau craidd yn cynnwys pynciau megis marchnata, cyfraith, pryniant, adnoddau dynol, menter a strategaeth. Bydd astudio’r meysydd yma yn rhoi addysg fusnes gyflawn i chi, gan eich gwneud yn fwy cyflogadwy wedi i chi raddio.

Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, gallwch ddewis modiwalu mwy penodol mewn meysydd busnes sydd o ddiddordeb i chi ac sy’n ateb gofynion eich dewis o yrfa i’r dyfodol.

Gellir astudio un rhan o dair o’r cwrs (2 fodiwl y flwyddyn) drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio’r ddau fodiwl craidd canlynol trwy gyfrwng y Gymraeg:

  • Sgiliau Entrepreneuraidd
  • Rheolaeth: Theori ac Ymarfer

Yn ystod eich ail a’ch trydydd blwyddyn bydd cyfle i chi astudio o leiaf 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Bydd yr union fodiwlau yn dibynnu ar eich llwybr cwrs gradd. Bydd cyfle hefyd i chi ysgrifennu traethawd hir trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ogystal, gallwn drefnu cyfleoedd i chi ymgymryd â phrofiad gwaith mewn lleoliadau sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg a chynnig tiwtora personol cyfrwng Cymraeg.

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch ni drwy e-bostio Heledd Bebb neu yma