University of Glamorgan

Bywyd ym Morgannwg

Cymorth i Fyfyrwyr

Mae mynd i brifysgol yn gyfnod gwych yn eich bywyd, ond y mae’n bosib y byddwch yn wynebu her neu ddwy ar hyd y ffordd. Ym Morgannwg, fe gewch yr holl gefnogaeth fydd ei hangen arnoch i wneud yn siŵr fod eich profiadau prifysgol mor ddidrafferth â phosibl. Os oes arnoch chi eisiau unrhyw wybodaeth, cyngor neu arweiniad ar faterion emosiynol, ariannol neu feddygol, mae yna rwydwaith o bobl yn barod i’ch helpu.

Cwnsela, cyngor a lles Iechyd

Mae’r Brifysgol yn cynnig gwasanaeth cwnsela. Mae’r Ganolfan Iechyd ar gampws Trefforest yn broffesiynol a chyfrinachol i bob myfyriwr. Mae modd cysylltu â staff proffesiynol er mwyn trafod eich sefyllfa, Cwnsela a Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia

Mae Prifysgol Morgannwg yn ymroi i ddarparu amgylchedd dysgu cynhwysol. Mae’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr sydd ag anabledd neu amhariad dysgu penodol ac ry’n ni’n eich annog i drafod eich gofynion personol gydag ymgynghorydd wrth i chi wneud eich cais.

Iechyd

Mae’r Ganolfan Iechyd ar gampws Trefforest yn broffesiynol a chyfrinachol i bob myfyriwr. Ceir cynnig gwasanaeth dan arweiniad nyrs lle gallwch gwrdd mewn grwpiau yn achlysurol, gan ddibynnu ar y galw neu alw i mewn neu ffonio i gael help a chyngor yn canolbwyntio ar hunan-ddatblygu a rheoli unrhyw faterion sy’n ymwneud ag iechyd. Mae’r Ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae gennym Feddyg Teulu ar gael yn rheolaidd. I fyfyrwyr Caerdydd mae Clinig Iechyd ar gael yn yr ATRiuM sydd yn cynnig apwyntiadau’n gyson.

Ffydd a Chrefydd

Mae Caplaniaeth y Brifysgol wedi’i gwreiddio yn y ffydd Gristnogol ond yn darparu gwasanaeth i fyfyrwyr o bob ffydd.

I wybod mwy, ewch i’r dudalen hon Crefydd

Gofal Plant

Mae Canolfan Chwarae’r Brifysgol yn darparu gofal amser-llawn a rhan-amser i blant rhwng tri mis a phum mlwydd oed. Rhoddir blaenoriaeth i blant staff a myfyrwyr Morgannwg. Mae’r Ganolfan wedi’i chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ac mae’n staff cymwys a phrofiadol yn darparu amgylchedd diogel a chysondeb gofal, gan roi’r cyfleoedd sydd eu hangen ar bob plentyn i’w helpu i ddatblygu’n gorfforol, yn emosiynol, yn ddeallusol ac yn gymdeithasol. I wybod mwy am y Ganolfan, ewch i dudalen y Ganolfan Chwarae – Play Centre.

“Dwi wedi derbyn cefnogaeth gwych gan staff y Brifysgol; ma pawb yn barod i helpu ac i ddarparu cyngor. Rwy nawr yn teimlo’n fwy hyderus wrth gyflwyno gwaith a gofyn am gymorth.”
Sara Chojnacki, BA (Anrh) Drama (Theatr a’r Cyfryngau) – llwybr dwyieithog 2010.

+ Feedback