Cyfleoedd Gwaith

Addysgu Ardderchog

Os ddewiswch chi astudio ym Morgannwg fe fyddwch chi’n derbyn addysg o safon arbennig ac o’r radd flaenaf. Y mae ein gwaith o fewn diwydiant a’n gwaith ymchwil arloesol yn caniatáu i ni deilwra’r cyrsiau i ddarparu’r profiadau gorau posib i chi. Byddwch chi’n cael eich addysgu gan staff academaidd sydd yn frwd am eu maes. Dyma elfen sydd eto adlewyrchu safon yr addysg. Ar ben hyn wrth gwrs, fe fyddwch chi’n lwcus i dderbyn darlithoedd gan siaradwyr gwadd ac yn gweithio ar brosiectau byw a diddorol a fydd yn eich arfogi â sgiliau gwych ar gyfer y dyfodol.

Dyma rhai enghreifftiau pellach sy’n cyfleu safon yr addysg yma ym Morgannwg

Mwy na dysgu arferol

Y mae darlithwyr Morgannwg yn fwy na darlithwyr. Yn wir, y mae nifer helaeth ohonyn nhw’n parhau i weithio neu ymarfer eu maes y tu hwnt i’r dosbarth.

Os mai ffilm sy’n mynd â’ch bryd yna falle y byddwch chi’n gweithio gyda gwneuthurwr ffilm enwog.

Os byddwch chi’n dewis astudio’r Saesneg neu’r Gymraeg mi fyddwch chi’n cael eich dysgu gan ddarlithwyr sydd yn cyhoeddi eu gwaith ac sy’n adnabyddus yn y byd llen yng Nghymru a thu hwnt. Enillodd Cyril Jones, darlithydd rhan-amser yn y Gymraeg, Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn 2009 enillodd yr Athro Phillip Gross y wobr lenyddol ryngwladol – Gwobr TS Eliot

Athrawon Gwadd

Er mwyn cyfoethogi eich profiadau ymhellach y mae nifer o’r adrannau academaidd yn gwahodd siaradwyr ac athrawon gwadd i ddarparu darlith arbenigol yn ystod y flwyddyn. Ymysg yr enwau mawr sydd wedi ymweld â Morgannwg y mae John Hurt, Ruth Badger (oddi ar yr Apprentice) a’r actor a’r cyfarwyddwr Daniel Evans.

Yn wir, y mae Daniel yn un o 5 Athro Gwadd i’r ATRiuM ac y mae’n darparu cymorth, cefnogaeth ac arweiniad i’r Adran Ddrama yno.
“Y mae’r ffaith bod Prifysgol Morgannwg yn darparu llwybr dwyieithog mewn drama yn wych. Iaith yw meddiant pwysicaf person; mae bod yn DDWYieithog yn cyfoethogi’r person hwnnw. Mae bod yn Gymro Cymraeg nid yn unig yn fater o falchder personol ond mae hefyd, o ran fy swydd, yn golygu fy mod i’n fwy hyblyg. O ran Morgannwg mae’n hynod bwysig imi fod Cymry Cymraeg yn cael y cyfle i gael yr addysg orau bosib yn eu hiaith eu hunain – a hynny yn un o adeiladau mwyaf arloesol Cymru ac Ewrop” : Daniel Evans

Addysg Real a Chyfoes

Y mae cynnwys a dulliau dysgu’r darlithoedd yn gyfoes a gwreiddiol. Y mae nifer o adrannau’r Brifysgol yn gweithio’n gyson gyda gwahanol ddiwydiannau ar waith ymchwil sy felly’n rhoi persbectif o ddatblygiadau’r byd go iawn i ni i chi. Y mae’r ddealltwriaeth yma a manteisio ar arbenigedd proffesiynol yn gwneud eich cwrs yn un berthnasol a modern ar gyfer y byd gwaith. Darperir cyfleoedd I weithio gydag arbenigwyr yn y maes egni amgen, prosiectau arbennig i drawsnewid cymunedau yn Zambia, Dr Who a throsedd ar-lein.

Dyma ymchwil sy’n torri tir newydd ac sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth ar lefel rhyngwladol am eu cynnwys arloesol . Yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf (RAE), cadarnhawyd ein statws fel un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Cymru am ein gwaith ymchwil.

Nodwyd bod dros 70% o waith ymchwil y Brifysgol yn waith o safon fyd-eang o safbwynt ei wreiddioldeb, pwysigrwydd a chywirdeb, gyda thua 10% yn cael ei gydnabod fel gwaith ymchwil sy’n arwain y ffordd ar lefel ryngwladol.

Sêl Bendith gan Ddiwydiant

Os oes angen mwy o dystiolaeth arnoch chi am safon addysg y Brifysgol yna y mae’r ffaith bod cynifer o gyrsiau Morgannwg wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol yn pwysleisio hyn hefyd.

Y mae sawl cwrs yma wedi’u hachredu gan gyrff ac awdurdodau proffesiynol sydd felly’n nodi bod y cyrsiau yn cwrdd â safonau uchel y diwydiannau perthnasol ac yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr fireinio’u sgiliau anaddas ar gyfer eu dewis sector yn y dyfodol.

Y mae’r cyrff a ganlyn i gyd yn cydnabod safon cyrsiau Morgannwg gan gynnwys y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig, Cymdeithas Gyfrifiadura Prydain a’r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Tirfesur.