Is-Ganghellor, Julie Lydon
Croeso i adran ‘proffil’ gwefan Prifysgol Morgannwg. Dyma’r adran sydd yn rhoi gorolwg i chi o’r Brifysgol – p’un a ydych yn ddarpar fyfyriwr, cyn fyfyriwr, neu’n aelod o’r wasg, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybodaeth gyffredinol am y Brifysgol.
Gyda’n agos at 100 mlynedd o brofiad ym maes addysg uwch, ‘rydym wedi chwarae rôl arwyddocaol yn natblygiad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru. Mae dawn nifer o genedlaethau o staff wedi ein galluogi i ddatblygu’n Brifysgol modern sy’n ffynnu, gydag enw da ar gyfer addysgu a dysgu rhagorol, cydnabyddiaeth gynyddol am ragoriaeth ymchwil rhyngwladol, cyfleusterau o’r radd flaenaf a chefnogaeth myfyrwyr penigamp.
Fel sefydliad addysg uwch sefydledig, ‘rydym yn ymrwymedig i ddarparu mynediad â rhagoriaeth; yn ymroddgar i ddarparu portffolio unigryw o gyrsiau rhagorol sy’n berthnasol yn broffesiynol, yn ogystal â phrofiad myfyrwyr o ansawdd uchel, sy’n rhoi mynediad i fyfyrwyr i’r technolegau diweddaraf ac offer o safon diwydiannol.
Rydym yn cael ein cydnabod yn gynyddol fel prifysgol dewis cyntaf ar gyfer myfyrwyr ac ‘rydym ar hyn o bryd yn gweithredu rhaglen ddatblygu ystadau cyffrous i ddarparu cyfleusterau newydd sbon a chyfoes ar hyd a lled ein campysau i gyd ar gyfer ein myfyrwyr. Mae’n hamgylchedd dysgu newydd yn adlewyrchu agwedd blaengar y Brifysgol ac yn cyfoethogi ansawdd dysgu’r myfyrwyr. I ddarganfod mwy am y cyfleusterau newydd hyn, edrychwch ar y tudalennau ar ein datblygiadau
Mae Prifysgol Morgannwg wedi ehangu’n fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2007, sefydlwyd Ysgol y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol (yn adeilad eiconig yr ATRiuM) a daeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn rhan o ‘Grŵp Morgannwg’ er mwyn darparu rhaglenni a chyfleusterau cynhwysfawr ar gyfer y diwydiannau creadigol a diwylliannol yn y brifddinas. Daeth Coleg Merthyr Tydfil yn rhan o Grŵp Morgannwg ym mis Mai 2006, ac ers hynny mae’r coleg wedi dechrau gweithredu rhaglen ailddatblygu eang, gan gynnwys datblygu cyrsiau newydd a gwella cyfleusterau.
Y mae gweithgareddau ymchwil y Brifysgol wedi mynd o nerth i nerth ac y mae’n henw da o fewn gwahanol feysydd ymchwil yn cryfhau’n gyson, gan gynnwys amgylchedd cynaliadwy, rheoli trychinebau, cyfathrebu symudol a delweddu meddygol. Ym mis Hydref 2008 agorodd y Brifysgol ei Chanolfan Ymchwil Hydrogen a Chanolfan Arddangos ym Mharc Egni Baglan a fydd y cyntaf o’i bath yn y DU, ac yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) diweddaraf, cadarnhawyd ein statws fel un o’r prifysgolion mwyaf gweithredol yng Nghymru o ran ymchwil. Yn ôl yr asesiad, roedd mwy na 70% o’n gweithgareddau ymchwil o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol am fod yn wreiddiol, arwyddocaol a thrylwyr, gyda rhyw 10% o’r ymchwil hon o safon fyd-eang.
‘Rydym yn cydnabod mantesion cydweithredu â Phrifysgolion eraill yng Nghymru, y DU a thramor. Yng Nghymru, er enghraifft y mae ein cyd-weithio a Phrifysgol Caerdydd wedi arwain at ddatblygu ystod o fentrau cyffrous gan gynnwys yr Athrofa Gwyddorau Heddlu Prifysgolion (UPSI). Rydym hefyd yn aelod o Grŵp Dydd Gwyl Dewi – partneriaeth â phedair o brifysgolion mwyaf Cymru (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe) i yrru economi wybodaeth Cymru yn ei blaen.
Bydd datblygu partneriaethau rhyngwladol yn parhau i fod yn flaenoriaeth strategol allweddol ar gyfer y Brifysgol. Yn y blynyddoedd diweddar, rydym wedi arwyddo cytundebau cydweithio gyda sefydliadau mewn nifer o wledydd gan gynnwys Canada, Tseina, yr Almaen, Hong Kong, Singapôr, a’r Unol Daleithiau sydd wedi hwyluso cyfnewidiadau myfyrwyr a staff a gweithgareddau ymchwil ar y cyd.
Ar lefel rhanbarthol, mae Morgannwg yn chwarae rôl allweddol mewn gwella safonau cyrhaeddiad mewn addysg. Rydym yn ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu ystod o fentrau gan gynnwys Ardal Ddysgu Merthyr, gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tydfil, ac Athrofa Prifysgol Blaenau’r Cymoedd (UHOVI), mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru Casnewydd a phartneriaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, i ddarparu cyfleoedd addysg uwch achrededig ar bob lefel ardraws y rhanbarth.
I gloi, hoffwn eich gwahodd i ymweld â ni i ddarganfod beth sydd gan Forgannwg i’w chynnig, ond nes bod y cyfle hwnnw’n codi, rwyf yn gobeithio bod ein gwefan yn cynnig yr holl wybodaeth sydd angen arnoch – p’un a ydych yn edrych am rywle i astudio neu i weithio, yn dymuno darganfod mwy am ein gwasanaethau ymchwil ac ymgynghori, neu’n chwilio am y newyddion diweddaraf ar ein datblygiad.