Os ydych chi wedi gwneud cais i astudio ym Morgannwg neu wedi cael cynnig lle i astudio yma, mi fyddwch chi’n derbyn gwahoddiad i ymweld â ni ar gyfer Diwrnod Ymgeiswyr.
Nod y digwyddiadau arbennig yma yw rhoi’r cyfle i chi fel darpar fyfyrwyr i gael blas ar fywyd yn y Brifysgol a sicrhau eich bod chi’n hapus â’ch penderfyniadau yn ymwneud â’ch dyfodol.
Ym Mhrifysgol Morgannwg trefnir bob diwrnod ymgeiswyr yn wahanol gan bob adran oherwydd bod angen eu teilwra i weddu eich gofynion wrth ymweld â ni.
Drwy fynychu Diwrnod Ymgesiwyr fe ddylech chi gael y cyfle i gael y profiadau isod :
Mae dewis prifysgol yn benderfyniad anodd hyd yn oed i fyfyrwyr sydd wedi gwneud eu gwaith ymchwil yn drylwyr.
Darperir y cyfle i chi gadarnhau eich penderfyniadau a’ch dewisiadau wrth ddod i Ddiwrnod Ymgeiswyr. I wybod mwy am y digwyddiadau yma, e-bostiwch y Brifysgol yma