Ym Mhrifysgol Morgannwg darperir gwahanol fathau o gyrsiau is-raddedig, o raddau sylfaen i raddau amlddisgyblaethol. Isod, felly, darperir gwybodaeth am y math o gyrsiau posib i chi yma gyda ni.
Mae graddau anrhydedd sengl yn caniatáu i chi ganolbwyntio eich astudio ar un pwnc sydd
o ddiddordeb i chi. Os ydych chi’n gwybod yn union beth rydych chi eisiau’i wneud ar ôl graddio, efallai taw hwn ydy’r dewis i chi. Er mai dim ond un pwnc y byddwch yn ei astudio’n fanwl, mae gan gyrsiau anrhydedd sengl beth hyblygrwydd o hyd. Byddwch yn astudio modiwlau craidd gyda myfyrwyr eraill ar eich cwrs, ond bydd detholiad o fodiwlau dewisol i chi ddewis o’u plith, felly gallwch arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb penodol i chi o fewn eich dewis bwnc.
Os nad ydych chi’n siwr eich bod eisiau ymrwymo i astudio un pwnc am dair neu bedair blynedd, neu os ydych chi’n hoffi dau bwnc cymaint â’i gilydd, gallech ystyried ein graddau cydanrhydedd lle rydych chi’n astudio dau bwnc o’ch dewis. Os ydych chi am gadw’ch dewisiadau o ran gyrfa yn agored, cydanrhydedd mae’n debyg yw’r llwybr gorau i chi.
Os ydych chi eisiau astudio un pwnc yn fanwl (y Prif-bwnc) ond am ddysgu am rywbeth arall hefyd (yr Is-bwnc), yna dewiswch yr opsiwn Prif-bwnc/Is-bwnc. Gallech astudio Gwyddorau Fforensig gydag Is-bwnc mewn Troseddeg, er enghraifft, neu astudio’r Gyfraith fel Prif-bwnc a Chyfrifeg fel Is-bwnc.
Mae Graddau Anrhydedd Cyfun ym Morgannwg ymhlith y rhai mwyaf hyblyg yn y DU. Mae’r trywydd hwn yn rhoi’r cyfle i chi lunio eich rhaglen astudio BA neu BSc eich hun. Bydd staff yn eich helpu i ddewis pynciau a modiwlau fydd yn trawsffurfio’ch amcanion a’ch diddordebau yn rhaglen astudio
Mae Graddau Sylfaen yn cyfuno dysgu yn y gweithle ac astudiaethau academaidd. Bydd
o leiaf chwarter eich amser yn cael ei dreulio yn y gweithle, yn dysgu’r sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr. Am weddill yr amser, byddwch yn astudio modiwlau ymarferol a theori yn y Brifysgol i ddatblygu’r wybodaeth rydych wedi ei meithrin yn y gwaith.
Mae’r cyrsiau hyn hefyd yn cyfuno astudio gyda phrofiad ymarferol. Mae Diplomâu Cenedlaethol fel arfer yn cynnwys lleoliadau gwaith neu brofiad perthnasol i waith a gallwch gwblhau’r cwrs mewn dwy flynedd. Mae Diplomâu Cenedlaethol ar gael mewn amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys Peirianneg, Cyfrifiadura, Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Hamdden a Thwristiaeth, Busnes a TG. Mae’n gymhwyster gwerthfawr ynddo’i hun, sy’n aml yn gallu arwain at astudio pellach. Mae llawer o fyfyrwyr yn cymryd y cyfle hwn i fynd ymlaen i flwyddyn olaf cwrs gradd ar ôl cwblhau eu Diploma’n llwyddiannus.
Os nad oes gennych chi’r cymwysterau iawn i gychwyn ar gwrs gradd yn syth, neu os ydych am ennill mwy o hyder mewn gwaith ar lefel uwch, gallwch ymuno ag un o’n rhaglenni Astudiaethau Sylfaen. Mae’r rhaglenni unigol hyn yn eich cynorthwyo i ymgyfarwyddo â’r lefel o astudio bydd ei hangen ar gyfer cwrs gradd penodol. Mae llwyddo i gwblhau rhaglen Astudiaethau Sylfaen yn cynnig cyfle awtomatig i fynd ymlaen i astudio’r radd berthnasol. Felly mae Astudiaethau Sylfaen yn ffurfio’r hyn y cyfeiriwn ati fel blwyddyn gyntaf cwrs pedair blynedd
Y mae portffolio ein cyrsiau dysgu ól-radd yn cynnwys Meistr yn y Celfyddydau (MA), Meistr yn y Gwyddoniaeth a Meistr yn y Gyfraith. Darperir dewis eang o gyrsiau sy’n arwain at Dystysgrif Ôl-radd a Diplomâu. Y mae graddau Meistr yn raddau proffesiynol. Wrth astudio rhai o’r cyrsiau bydd dim angen i chi sefyll arholiadau proffesiynol yn y dyfodol a bydd rhai hyd yn oed yn darparu aelodaeth o gyrff proffesiynol i chi.