Bywyd ym Morgannwg
Undeb y Myfyrwyr
Mae’r Undeb yn cael ei redeg ar gyfer myfyrwyr gan fyfyrwyr ac fe gewch chi lais ar sut mae’n cael ei redeg. Fel myfyriwr ym Morgannwg byddwch yn dod yn aelod o’r Undeb yn awtomatig, felly gallwch wneud y gorau o’r hyn sydd ar gael. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau a gweithgareddau. Felly pan nad ydych chi’n astudio, yr Undeb mae’n debyg fydd y lle y byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser.
Trefforest
Ym Medi 2010 agorodd Undeb Myfyrwyr Morgannwg drysau ei chartref newydd. Dyma leoliad sy’n ganolfan wych i fyfyrwyr ar gampws Trefforest ac sy’n le i ymlacio a mwynhau. Yno, fe ddewch chi o hyd i wasanaethau, digwyddiadau, clybiau, cymdeithasau a phrosiectau cymunedol diddorol – heb sôn am y clwb nos a’r bariau wrth gwrs!
Dyma adeilad modern, eiconig, ysbrydoledig a fydd yn dod yn brif ganolbwynt cwrdd a chymdeithasu i chi a’ch ffrindiau ar y campws. Yn wir, ymysg yr adnoddau anhygoel bydd
- cyswllt diwifr ym mhob rhan o’r adeilad a chyfrifiaduron yn yr ardal ‘dysgu cymdeithasol’
- swyddfa docynnau ar gyfer digwyddiadau i fyfyrwyr
- Siop Undeb y Myfyrwyr
- Siop Waith
- Dewis o gaffis, bariau a chlwb nos
- Teras awyr agored
- Peiriant arian
ATRiuM
Ym Medi 2009 agorwyd Undeb y Myfyrwyr newydd ar gampws ATRiuM yng Nghaerdydd, Drwy’r Undeb gall myfyrwyr Caerdydd dderbyn cymorth a’r ddarpariaeth arall a gynigir gan yr Undeb.
Yno fe ddewch chi o hyd i…
- Siop sy’n gwerthu popeth y bydd ei angen ar fyfyriwr o siocled i staplwr!
- Caffi a Bar ‘Escape’ – sy’n gweini prydau cynnes blasus fel cyri, pasta, brecwast llawn a mwy. Yno hefyd gallwch chi fwynhau brechdan swmpus a phaned o de neu beint neu ddau.
- Gwasanaeth i fyfyrwyr gan swyddogion campws
- Swyddfa Clybiau a Chymdeithasau
Glyn-taf
Er bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr Glyn-taf yn byw ar gampws Trefforest neu yn Nhrefforest ac yn defnyddio’r Undeb Myfyrwyr newydd yn feunyddiol mae’r Brifysgol hefyd yn darparu rhai o adnoddau’r Undeb draw ar gampws Glyn-taf.
Draw yng Nglyn-taf y mae yna:
- Siop Undeb lle gellir prynu deunydd gwaith, brechdanau a hyd yn oed deunydd cwrs fel cot wen ar gyfer arbrofion yn y labordai
- Derbynfa ac ardal lle y mae aelod o staff yr Undeb ar gael i ateb cwestiynau neu ddarparu help am unrhyw fater sydd yn peri pryderon a lle gall yr Undeb fod o gymorth i chi.