Bywyd ym Morgannwg


Teithio

Y mae teithio o’r un lle i’r llall, o gampws i gampws, o’r brifysgol i adref ac ymweld â’r ardaloedd o’ch amgylch yn rhan o fywyd prifysgol.

Fel myfyriwr byddwch yn gallu cael arian oddi ar eich trafnidiaeth ac felly dyma’ch cyfle gorau i wneud y mwyaf o hyn. Er y byddai cael car yn ddefnyddiol nid yw’n angenrheidiol, bydd hi’r un mor hawdd i chi neidio ar fws, ymlacio a gwylio’r byd yn mynd heibio ar drên neu fwynhau’r awyr iach ar feic.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Y mae modd cyrraedd pob un o gampysau’r brifysgol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac y mae pob un yn agos i orsaf drên. Y mae trenau yn rhedeg yn gyson rhwng Merthyr Tudfil a Chaerdydd, hyd at 6 gwaith yr awr yn ystod yr oriau brig. Ar ben hyn y mae bysiau yn mynd o Bontypridd i Lantrisant (ac yn mynd heibio i gampws Trefforest y brifysgol) bob 15 munud.

Y mae Bysiau Caerdydd yn darparu gwasanaeth dda iawn yn ardal Caerdydd, gyda gwasanaethau ar gael yn gyson i wahanol rannau o’r ddinas a fydd felly yn eich cludo i ble bynnag fydd diwedd eich taith.

Parcio

Ar ddechrau’r tymor y mae galw mawr am lefydd parcio ar gampws Trefforest a Glyn-taf ac awgrymir i chi feddwl os oes gwir angen ichi ddod a char gan fod cynifer o opsiynau teithio eraill ar gael. Defnyddir system loteri ar gyfer dewis pwy sydd yn cael lle parcio ger y neuaddau preswyl i fyfyrwyr sydd yn aros ar y campws.

Ni ddarperir llefydd parcio i fyfyrwyr yr ATRiuM a does dim meysydd parcio gyda’r neuaddau preswyl yng Nghaerdydd. Er hyn, eto, y mae’r drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd yn darparu gwasanaethau gwych ac y mae’n hawdd cyrraedd bron i bob man ar droed yn y ddinas hefyd.

Seiclo

Y mae mwy a mwy o bobl yn seiclo erbyn hyn am ei fod yn ddull hamddenol, hawdd a rhad i deithio o un lle i’r llall. Darperir siediau beics arbennig ar bob campws, gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y siediau a derbyn gwybodaeth am sut i brynu beic am bris gostyngedig ar y tudalennau a ganlyn

Gwybodaeth bellach

Trenau Cenedlaethol – http://www.nationalrail.co.uk
Bws Trefforest – Glyn-taf : http://inform.glam.ac.uk/shuttlebus/
Bysiau Caerdydd – http://www.cardiffbus.com/
Teithio i’r Campws – http://glamlife.glam.ac.uk/pages/3103-travelling-to-campus