Bywyd ym Morgannwg
Gwaith ym Morgannwg
Yn naturiol ry’n ni’n gallu deall sut y byddai cael ychydig o arian poced ychwanegol tra yn y brifysgol yn rhoi’r cyfle i chi fwynhau eich bywyd yn fwy.
Ond rhywbeth pellach i’w ystyried yw y bydd gweithio’n rhan amser wrth i chi astudio hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gael profiad gwaith buddiol a gwneud ffrindiau newydd.
Os byddwch chi’n dymuno edrych am waith er mwyn rhoi hwb pellach i’ch incwm yna y mae’n bwysig eich bod chi’n dod o hyd i rywbeth sydd yn rhoi’r cyfle i chi daro’r balans iawn rhwng gweithio’n rhan-amser a gweithio ar eich gwaith prifysgol.
Y mae Gwasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol yn credu mai tua 12-16 awr yr wythnos sydd yn realistig o ran gweithio yn rhan-amser.
Undeb y Myfyrwyr
Un o’r pethau cyntaf i’w wneud wrth chwilio am swydd yw cofrestru gyda’ Job Shop er mwyn cael dod i wybod mwy am y cyfleoedd gwaith o fewn y Brifysgol a’r Undeb ei hun. Y mae’r gwaith sydd ar gael yn ddiddorol ac amrywiol – efallai y byddwch chi’n gweithio fel llysgennad myfyriwr ar Ddiwrnod Agored neu ym mar yr Undeb.
Gwasanaethau Gyrfaol
Nid darparu cyngor am sut o ddod o hyd i swydd raddedig yw unig gyfrifoldeb yr Adran hon, yn wir, yno fe gewch chi gyngor drwy gydol eich blynyddoedd yn y brifysgol, gan gynnwys dod o hyd i swydd ran-amser y tu allan i’r Brifysgol. Cofrestrwch gydag ‘Openings’ i wybod mwy, yma
Gweithio oddi ar y campws
Darperir llwyth o gyfleoedd gwych ar gyfer dod o hyd i swydd ran-amser addas a pherthnasol i’ch gofynion chi yn ardal y Brifysgol. Gyda phrif ddinas Cymru, Caerdydd ar stepen eich drws gellir dod o hyd i waith mewn caffis, siopau a mwy o lefydd prysur a diddorol. Gellir cofrestru ar wefannau asiantaethau ar gyfer dod o hyd i waith yng Nghaerdydd a Phontypridd.
Dod i wybod mwy
Darperir rhestr hir o’r gwahanol wefannau gwaith ar gyfer lleoliadau yn Ne Cymru ar y wefan ‘student careers’ felly, ewch ar y wefan i weld beth sy’n bosib.
Cofiwch bod dwy iaith yn rhoi dwy sgil i chi ac felly fe ddylech chi dynnu sylw at hyn fel sgil arbennig wrth wneud cais am swyddi, wedi’r cyfan y mae nifer o gwmnïau erbyn hyn yn chwilio am weithwyr dwyieithog. Os hoffech chi wella eich sgiliau Cymraeg wrth astudio yma a datblygu eich hyder i gyfathrebu yn y Gymraeg mewn awyrgylch broffesiynol yn y dyfodol darperir cyfleoedd yma ym Morgannwg. Ewch i www.glam.ac.uk/cymraegmorgannwg i wybod mwy.