Bywyd ym Morgannwg


Clybiau a Chymdeithasau

Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, beth bynnag eich diddordeb, o hawliau dynol i chwarae mewn band yna fe ddewch chi o hyd i glwb neu gymdeithas addas i chi ym Morgannwg.

Wrth ymuno â chymdeithas byddwch chi’n gwneud llwyth o ffrindiau newydd ac yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Ond yn fwy na hyn, byddwch yn ehangu eich gorwelion ac yn cyfoethogi eich bywyd prifysgol, wedi’r cyfan, y mae bod yn aelod o gymdeithas yn ymwneud â pharhau â diddordeb sydd gyda chi ar hyn o bryd a chael blas ar brofiadau newydd a diddorol.

Ymuno â chymdeithas

Bob blwyddyn cynhelir Ffair y Glas gan Undeb y Myfyrwyr lle bydd cyfle i chi ymweld â stondinau’r gwahanol gymdeithasau sydd yma ac yna ymuno â’r rhai sy’n apelio fwyaf. Dyw hi byth yn rhy hwyr i ymuno â chymdeithas, fe allwch chi ymuno hefyd wedi’r Ffair, ond, gorau po gyntaf y byddwch chi’n ymuno, gorau po gyntaf gewch chi ymuno yn yr hwyl!

Sefydlu Cymdeithas

Os na allwch chi ddod o hyd i gymdeithas sydd yn ymwneud â’ch diddordebau chi yna fe allwch chi a 9 person arall sefydlu eich cymdeithas eich hun (rhaid cael 10 aelod neu’n fwy).

Y cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw mynd i dderbynfa Undeb y Myfyrwyr lle cewch chi gyngor ar sut y mae mynd ati.

Clybiau a Chymdeithasau

Dyma rhai o’r cymdeithasau sydd yn bodoli ar hyn o bryd:

  • Amnest Rhyngwladol
  • Y Gymdeithas Beirianneg
  • Y Gymdeithas Ddadlau
  • Y Gymdeithas Golff

Y Gymdeithas Gymraeg

Cynhelir digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol gan y Gymdeithas er mwyn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gymdeithasu a defnyddio’r Gymraeg yn y Brifysgol. Ewch i’w tudalen Facebook neu ddilynwch y Gymdeithas ar Twitter

Y mae’r Gymdeithas hefyd yn gweithio gyda’r Brifysgol yn ystod Wythnos y Glas lle bydd aelodau’r Gymdeithas yn ymuno â staff cyfrwng Cymraeg y Brifysgol. Nod y Digwyddiadau Croeso yma ar ddechrau’r tymor yw rhoi’r cyfle i fyfyrwyr presennol, newydd a staff i ddod i nabod ei gilydd mewn awyrgylch ysgafn a chymdeithasol.

Cynhelir y digwyddiadau gan amlaf yn ystod yr ail wythnos ar ddechrau’r tymor fis Medi yn Undeb y Myfyrwyr Trefforest ac ATRiuM.

Darperir mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau Medi 2012 yn fuan.