Bywyd ym Morgannwg


Crefydd

I rai unigolion y mae ymarfer eu crefydd yn gyson yn rhan o fywyd, ac yma ym Morgannwg darperir y gefnogaeth sydd ei angen ar ein myfyrwyr er mwyn gwneud hyn, beth bynnag eu crefydd neu ffydd.

Y Gaplaniaeth

Mae’r Gaplaniaeth, tra’i bod wedi’i gwreiddio yn y traddodiad Cristnogol, yn wasanaeth agored a chynhwysol sy’n darparu man cyfeirio ar gyfer myfyrwyr o bob ffydd a’r rhai heb grefydd. Rydym yn gallu cael gafael ar nifer o ymgynghorwyr o wahanol grefyddau – Islam, Iddewiaeth, Hindŵaeth a Bwdhaeth – ac rydym ar gael i roi cefnogaeth fugeiliol. Rydym hefyd yn cynnig cyngor a gwybodaeth ar gymunedau ffydd yn yr ardal ac ar faterion crefyddol ac ysbrydol eraill.

Tŷ Cwrdd

Cartref y Gaplaniaeth ar Gampws Trefforest yw’r Tŷ Cwrdd. Mae ar ochr ogledd y campws yn agos at Adeilad Ferndale a gât Stryd Brook. Cewch chi gyfeillgarwch, brwdfrydedd a chroeso mawr yn y Tŷ Cwrdd. Rhoddir cyfle i bobl o bob cenedl, diwylliant a ffydd gwrdd a dod i nabod ei gilydd.

Ystafelloedd Gweddïo Islamaidd

Darperir ystafell weddïo ar gampws Trefforest lle darperir adnoddau gweddïo ar wahân i fenywod a dynion mewn ystafelloedd priodol. Yn ogystal â hyn darperir yr adnoddau ymolchi angenrheidiol.

Y mae’r adnoddau yma ar gael bob dydd ac yn cael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau ar ddydd Gwener. Cewch chi fwy o wybodaeth gan Cymdeithas Islamaidd Morgannwg

Arlwyo

Y mae’r Brifysgol yn anelu at ddarparu arlwy o fwydydd addas i bob un o’n myfyrwyr. Darperir arlwyaeth arbennig ar gyfer prydau halal a llysieuol yn ein hardaloedd bwyta ar y campws. Ceir mwy o wybodaeth ar ein gwefan GlamLife.