Bywyd ym Morgannwg
Chwaraeon yn y Brifysgol
Chwaraeon Morgannwg
Yn ôl pob sôn y mae corff iach yn arwain at feddwl iach ac felly does dim rhyfedd bod myfyrwyr Morgannwg yn gwneud mor dda.
Y mae gan ein Canolfan Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer enw da am yr adnoddau a ddarperir i fyfyrwyr, sydd ymysg y gorau o ran adnoddau chwaraeon prifysgolion. Ond peidiwch â derbyn ein gair ni’n unig, y mae’r Ganolfan wedi derbyn cydnabyddiaeth ar sawl lefel pellach hefyd. Yn wir, y mae hyn yn cynnwys Achrediad Quest, sef Cynllun Monitro Safon adnoddau chwaraeon yn y DU sydd hefyd yn farc cydnabyddiaeth sy’n cael ei gydnabod gan y 4 Cyngor Chwaraeon ym Mhrydain.
Y mae’r Ganolfan wedi’i leoli ar gampws Trefforest nesaf at Undeb y Myfyrwyr ac yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau.
Defnyddir yr adnoddau gan nifer o dimau proffesiynol a rhyngwladol, gan gynnwys Tîm Pêl-droed Dinas Caerdydd (Cardiff City), Academi Rygbi’r Gleision, a thimau teithiol Rygbi’r De Affrig a Seland Newydd.
Rhoddodd Steve Thompson, chwaraewr pêl-droed rhyngwladol sêl ei fendith i’r adnoddau ac ar ôl ymweliad diweddar, dywedodd, “mae’r adnoddau ym Morgannwg, Trefforest yn wych, dyma le pwysig iawn i ni fel tîm”>
Mae Timau’r Brifysgol wedi bod yn llwyddiannus ar sawl lefel a gweld myfyrwyr yn datblygu i gystadlu ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol ym meysydd rygbi, pêl-droed, hoci, golff, pêl-fasged a mwy.
Ein Hadnoddau
Yn ein Canolfan fe ddewch chi o hyd i’r adnoddau gorau i unrhyw fyfyriwr chwaraeon neu unrhyw un sy’n mwynhau cadw’n heini, gan gynnwys:
• Wal ddringo 9m
• 6 Chwrt Badminton
• Stiwdio ymarfer corf ag aerobeg
• 4 cwrt sboncen
• Ystafell codi pwysau a mwy
• Y mae’r anodau ar agor 96 awr yr wythnos yn ystod tymor y Brifysgol
Meysydd Chwarae
Y mae gan y Brifysgol feysydd chwarae 30 acer yn ogystal, gyda naw maes chwarae pêl-droed a rygbi sydd dan lifoleuadau a maes chwarae criced addas ar gyfer unrhyw dywydd. Ar ben hyn y mae’r Parc Chwaraeon newydd gwerth £6.5m yn rhoi hyd yn oed mwy o gyfleoedd gwych i’n myfyrwyr ac yn rhoi hwb ychwanegol i fyfyrwyr gwyddoniaeth a chwaraeon y Brifysgol ymhellach.