Bywyd ym Morgannwg


Bwyd

Y mae bob un o’n neuaddau preswyl yn rhai hunanarlwyo ac felly os nad ydych chi’n ymdebygu i Gordon Ramsey yn y gegin neu os fyddwch chi’n awchu am bryd sydyn blasus yna mae yna ddewis helaeth o fannau bwyta ar y campws gyda nifer yn cynnig bwyd halal a chynnyrch Masnach Deg.

Y mae’r caffis a’r bwytai ar y campws yn cynnig amrywiaeth o fwydydd oer a chynnes, fe allwch chi hefyd brynu byrbrydau ac anghenion eraill yn Siop yr Undeb.

Masnach Deg

Mae Morgannwg bellach yn brifysgol Fasnach Deg yn swyddogol. Rhoddodd y Sefydliad Masnach Deg y statws hwn i ni i gydnabod yr hyn yr ydym yn ei wneud i greu byd tecach a mwy diogel.

Bu grŵp o staff a myfyrwyr yn cydweithio am dair blynedd i gyflawni hyn, gan ddatblygu Masnach Deg ar draws y Brifysgol a chodi ymwybyddiaeth o’r mudiad. Rydym yn ymroddedig i werthu nwyddau Masnach Deg yn ein siopau, ein caffis a’n bwytai, sydd mewn gwirionedd yn golygu fod pawb yma’n cefnogi datblygiad cynaliadwy, ffermwyr ac amaethu ar dri chyfandir.