Bywyd ym Morgannwg


Adloniant

Diwylliant

Y mae dewis eang a deniadol o gyfleoedd diwylliannol at ddant pawb yn Ne Cymru. Y mae Caerdydd yn gartref i Ganolfan Mileniwm Cymru sydd yn cynnig rhaglen amrywiol o berfformiadau theatr, dawns a cherddorol. Ar ben hyn gan mai Caerdydd yw ein prif ddinas gellir dod o hyd i nifer o theatrau a mannau celfyddydol o fewn tafliad carreg i ganol y ddinas gan gynnwys Theatr y Sherman a Chanolfan Gelfyddydol y Chapter. Ym Mae Caerdydd gellir cael blas o waith celf a chrefft darlunwyr ac arlunwyr o Gymru a’r byd yn ‘Crefft yn y Bae’ a’r siopau eraill yno.

Y mae Pontypridd yn enwog am ei diwylliant Cymreig, wedi’r cyfan, dyma gartref a man cychwyn y bandiau Lost Prophets, Funeral for a Friend a’r Stereophonics. Cynhaliwyd eu gigs cyntaf yng Nghanolfan Gelf y Muni yn y dref ac yno hefyd cynhelir nosweithiau comedi, arddangosfeydd a digwyddiadau cymdeithasol yn gyson.

Bywyd Nos

I fyfyrwyr sydd yn byw yn Nhrefforest neu Bontypridd ceir amrywiaeth o fariau a thafarndai sydd yn cynnal nosweithiau arbennig yn aml, o gwisiau i garioci. Gellir manteisio hefyd ar ein Undeb Myfyrwyr newydd wrth gwrs a fydd yn ganolfan a chrochan o fwrlwm drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Gall myfyrwyr Trefforest hefyd neidio ar y trên lawr i Gaerdydd ac ymuno â myfyrwyr yr ATRiuM i dreulio nosweithiau yn mwynhau’r hyn sydd gan Gaerdydd i’w gynnig. Yno, ceir clybiau mawr prysur a llawn bywyd neu leoliadau bach mwy confensiynol. Mae gyda chi hefyd eich undeb myfyrwyr eich hun lawr yn yr ATRiuM.

Yng Nghaerdydd hefyd gall ein myfyrwyr ymlacio dros beint yn yr Undeb ar gampws yr ATRiuM neu neidio ar drên lan y tro hwn i Drefforest i fwynhau’r Undeb ar y prif gampws.

Treftadaeth

Ble bynnag y byddwch chi wedi’ch lleoli o ran eich astudiaethau y mae yna gyfleoedd gwefreiddiol ar gael yn yr ardal er mwyn cael blas ar ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

Y mae gan Gaerdydd fannau arbennig sydd yn adlewyrchu traddodiadau’r genedl ac yn rhoi gwir gyfle i chi ddysgu am hanes Cymru, o Gastell Caerdydd i amgueddfa awyr agored Sain Ffagan – amgueddfa sydd wedi’i leoli ar barc gwledig 100 erw . Ewch yno i ddod i wybod mwy am eich cyn deidiau neu am ddiwrnod cymdeithasol gyda’ch ffrindiau. Efallai cewch weld adeilad o’ch ardal enedigol sydd wedi’i ail adeiladu yma a chewch gyfle i gamu’n ôl mewn amser!

Yr Awyr Agored

Y mae de Cymru yn gartref i rai o fannau mwyaf prydferth Cymru ac y mae’r Brifysgol yn y lleoliad daearyddol perffaith i roi’r cyfle i chi fentro i ymweld â’r mannau yma. Y mae’r olygfa o rhai o ystafelloedd y campws yn anhygoel a does dim yn eich atal rhag mwynhau rhai o draethau mwyaf glân a godidog bro Ogwr neu gerdded mynyddoedd Bannau Brycheiniog.

Yng Nghaerdydd ewch i barciau’r Rhath a Biwt neu ewch i Fae Gaerdydd i eistedd ar lan y môr a bwyta hufen ia. Neu beth am fynd i Barc Ynys Angharad ym Mhontypridd i ymlacio gyda llyfr yn yr haul? Man poblogaidd arall erbyn hyn wrth gwrs yw Ynys y Bari, lle gellir mynd ar daith Gavin and Stacey arbennig i dwristiaid a chael ail fyw rhai o olygfeydd y gyfres enwog!!

Cyfleoedd cymdeithasol Cymraeg yn yr ardal

Ym Mhontypridd a’r ardal gellir mynd lawr i Glwb y Bont am glonc, peint a chan a gwneud ffrindiau gyda siaradwyr Cymraeg hen ac ifanc yr ardal. Os ydych chi’n mwynhau canu mewn corau gellir ymuno â Chorau cyfrwng Cymraeg yr ardal gan gynnwys Côr llwyddiannus Godre’r Garth neu Gôr Bechgyn Bro Taf.

Yng Nghaerdydd ceir llwyth o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn Gymdeithasol.Ewch i dafarn y Mochyn Du neu galwch mewn am beint yng Nghlwb Ifor Bach neu Copa. Eto, gellir dod o hyd i gymdeithasau a chorau cyfrwng Cymraeg yn y ddinas, fel Cor y Waun Ddyfal neu Aelwyd CF1.

Peidiwch ag anghofio hefyd am y cyfleoedd cymdeithasol sy’n cael eu trefnu gan y Gymdeithas Gymraeg. Ewch i’w tudalen Facebook neu ddilynwch y Gymdeithas ar Twitter.