Addysg Ardderchog

Os ddewisi di astudio ym Morgannwg fe fyddi di’n derbyn addysg o’r radd flaenaf. Mae ein gwaith o fewn diwydiant a’n gwaith ymchwil arloesol yn caniatáu i ni deilwra’r cyrsiau i ddarparu’r profiadau gorau posib i ti. Byddi di’n cael dy addysgu gan staff academaidd sy’n frwd am eu maes. Ar ben hyn wrth gwrs, fe fyddi di’n derbyn darlithoedd gan siaradwyr gwadd ac yn gweithio ar brosiectau byw a diddorol a fydd yn dy arfogi â sgiliau gwych ar gyfer y dyfodol.

Dyma rai enghreifftiau pellach sy’n cyfleu safon yr addysg yma ym Morgannwg.

Mwy na dysgu arferol

Mae darlithwyr Morgannwg yn fwy na ddarlithwyr. Yn wir, mae nifer helaeth ohonyn nhw’n parhau i weithio neu ymarfer eu maes y tu hwnt i’r dosbarth. Os byddi di’n dewis astudio’r Saesneg neu’r Gymraeg mi fyddi di’n cael dy ddysgu gan ddarlithwyr sy’n cyhoeddi eu gwaith ac sy’n adnabyddus yn y byd llên yng Nghymru a thu hwnt. Mae Cyril Jones, darlithydd rhan-amser yn y Gymraeg, wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae’r Athro Phillip Gross wedi ennill gwobr lenyddol ryngwladol – Gwobr TS Eliot.

Athrawon gwadd

Er mwyn cyfoethogi dy brofiadau ymhellach mae nifer o’n hadrannau academaidd yn gwahodd siaradwyr ac athrawon gwadd i ddarparu darlith arbenigol yn ystod y flwyddyn. Ymysg yr enwau mawr sydd wedi ymweld â Morgannwg y mae John Hurt, Ruth Badger (oddi ar yr Apprentice) a’r actor/cyfarwyddwr Daniel Evans. Mae Daniel yn un o 5 Athro Gwadd i’r ATRiuM ac mae’n darparu cymorth, cefnogaeth ac arweiniad i’r Adran Ddrama yno.
“Y mae’r ffaith bod Prifysgol Morgannwg yn darparu llwybr dwyieithog mewn drama yn wych. Iaith yw meddiant pwysicaf person; mae bod yn ddwyieithog yn cyfoethogi’r person hwnnw. Mae bod yn Gymro Cymraeg nid yn unig yn fater o falchder personol ond mae hefyd, o ran fy swydd, yn golygu fy mod i’n fwy hyblyg. O ran Morgannwg mae’n hynod bwysig imi fod Cymry Cymraeg yn cael y cyfle i gael yr addysg orau bosib yn eu hiaith eu hunain – a hynny yn un o adeiladau mwyaf arloesol Cymru ac Ewrop”: Daniel Evans

Addysg real a chyfoes

Mae cynnwys a dulliau dysgu’r darlithoedd yn gyfoes a gwreiddiol. Mae nifer o adrannau’r Brifysgol yn gweithio’n gyson gyda gwahanol ddiwydiannau ar waith ymchwil sy felly’n rhoi persbectif o ddatblygiadau’r byd go iawn i ti. Mae’r ddealltwriaeth hon a manteisio ar arbenigedd proffesiynol yn gwneud dy gwrs yn un perthnasol a modern ar gyfer y byd gwaith. Darperir cyfleoedd i weithio gydag arbenigwyr yn y maes egni amgen, prosiectau arbennig i drawsnewid cymunedau yn Zambia, Dr Who a hunaniaeth Gymreig a throsedd ar-lein. Yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) diweddaraf, nodwyd bod dros 70% o waith ymchwil y Brifysgol yn waith o safon fyd-eang.

Sêl bendith gan ddiwydiant

Os oes angen mwy o dystiolaeth arnat ti am safon addysg y Brifysgol yna y mae’r ffaith bod cynifer o gyrsiau Morgannwg wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol yn pwysleisio hyn hefyd.Mae sawl cwrs wedi’u hachredu gan gyrff ac awdurdodau proffesiynol sydd felly’n nodi bod y cyrsiau yn cwrdd â safonau uchel y diwydiannau perthnasol ac yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr fireinio’u sgiliau addas ar gyfer eu dewis sector yn y dyfodol. Mae’r gydnabyddiaeth hon hefyd yn golygu bod modd i gyrff fel Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM), Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) dy eithrio rhag sefyll arholiadau proffesiynol.